Fe fydd Harry Maguire, capten tîm pêl-droed Manchester United, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd ohiriedig o garchar am ei ran mewn ffrwgwd ac ymosodiad ar blismyn yng Ngwlad Groeg, yn ogystal ag ymgais i lwgrwobrwyo’r heddlu.
Roedd Maguire, ei frawd Joe a’u ffrind Christopher Sharman mewn ffrwgwd ar ôl honni bod tri dyn wedi ceisio chwistrellu chwaer Maguire yn ei braich ar noson allan ar ynys Mykonos.
Yn ôl erlynwyr, wnaeth Daisy Maguire, ei chwaer, ddim sôn am achos o chwistrellu pan gafodd ei holi gan yr heddlu.
Cafwyd y chwaraewr canol cae yn euog a’i ddedfrydu i 21 mis o garchar wedi’i ohirio.
Fe fydd euogfarn Maguire yn cael ei diddymu yn ystod y cyfnod apelio ac ail achos llys.
Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd y gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal, ac fe allai gymryd rhai misoedd.
Mae disgwyl iddo barhau’n gapten ar Manchester United wrth i’r clwb ei gefnogi, ond mae wedi’i ryddhau o garfan Lloegr ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Denmarc fis nesaf.