Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ennill y ras i ddenu Jamal Lowe o Wigan Athletic.

Mae’r asgellwr wedi ymuno â’r Elyrch am ffi sydd heb ei gadarnhau, ac mae’n dilyn Korey Smith a Morgan Gibbs-White i’r Liberty ar ôl i Freddie Woodman a Marc Guehi ddychwelyd am ail dymor ar fenthyg.

Chwaraeodd yr asgellwr 26 oed ym mhob un o gemau Wigan yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl symud o Portsmouth.

Dechreuodd e’r ddwy gêm gollodd Wigan yn erbyn yr Elyrch y tymor diwethaf.

Gyrfa

Dechreuodd Jamal Lowe ei yrfa gyda Barnet a throi’n broffesiynol yn 2012.

Ar ôl symud o gwmpas am gyfnod hir, ymunodd e â St Alban’s yn 2015 cyn symud at Hemel Hempstead a Hampton & Richmond Borough.

Ar y pryd, roedd e hefyd yn athro ymarfer corff ond fe ddenodd e sylw sgowtiaid wrth sgorio 29 o goliau mewn 48 o gemau i Hampton & Richmond Borough wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i Gynghrair Genedlaethol y De.

Ymunodd e â Portsmouth a chyn-reolwr Abertawe Kenny Jackett yn 2016, gan sgorio gôl wrth guro Cheltenham o 6-1 i gipio tlws yr Ail Adran.

Sgoriodd e o’r smotyn wrth i Portsmouth guro Sunderland yn Nhlws y Gynghrair Bêl-droed yn 2019.

Ymunodd e â Wigan cyn tymor 2019-20 a sgorio chwe gôl mewn 48 o gemau ar draws yr holl gystadlaethau.