Mae Joey Martin, capten tîm hoci iâ Devils Caerdydd, wedi gadael dros dro am Stavanger Oilers yn Norwy ar gyfer tymor 2020-21.

Fe ddaw ar ôl i benaethiaid y clwb roi’r hawl i’r holl chwaraewyr adael os ydyn nhw’n dymuno, ar ôl i’r tymor gael ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Mae disgwyl i’r tymor ddechrau ym mis Rhagfyr ond yn ôl Todd Kelman, Rheolwr Gyfarwyddwr y Devils, mae dwylo’r clwb wedi’u clymu gan gyfyngiadau Llywodraeth Prydain.

“Fe wnes i ysgrifennu at ein holl fois ni ychydig dros wythnos yn ôl,” meddai.

“Nid yn unig y bois rydyn ni wedi’u denu eisoes ond y bois roedden ni’n bwriadu dod â nhw’n ôl pe bai tymor 2020-21 yn dechrau’n brydlon.

“Eglurais i fod bwrdd y Gynghrair Elit yn gweithio’n galed iawn i geisio dechrau ym mis Rhagfyr ond fod ein dwylo wedi’u clymu gan gyfynigadau’r llywodraeth yn ymwneud â digwyddiadau dan do â thorfeydd.”

Mae’n dweud bod y clwb yn barod i roi geirda neu ddod o hyd i asiant i’r chwaraewyr sy’n dymuno gadael.

Joey Martin

Fe fu Joey Martin yn un o hoelion wyth Devils Caerdydd dros y chwe thymor diwethaf.

Mae’n un o’r chwaraewyr gorau yn y Gynghrair Elit ers rhai blynyddoedd hefyd.

Cafodd ei enwi ymhlith tîm y flwyddyn y gynghrair bum gwaith allan o chwech, gan ennill gwobr Blaenwr y Flwyddyn yn y gynghrair dair gwaith a gwobr y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr ddwywaith.

Mae e wedi ennill y gynghrair ddwywaith, y Gwpan Her ddwywaith a’r gemau ail gyfle ddwywaith.

Er yr ymadawiad, dywed y clwb mai ymadawiad dros dro fydd e a bod Joey Martin yn bwriadu dychwelyd ar ôl i’r gamp ddod yn ôl i drefn.