Bydd gemau Cynghrair Ewropa Y Bala a’r Seintiau Newydd yn cael eu ffrydio ar-lein heno (nos Iau, Awst 27).

Mae’r Bala’n herio Valletta FC oddi cartref ar ynys Melita, tra bod Y Seintiau Newydd yn wynebu MŠK Žilina o Slofacia gartref.

Bydd cic gyntaf gêm Y Bala am 7yh, tra bod gornest Y Seintiau Newydd yn dechrau am 6:30yh.

Mae’r ddwy gêm yn cael eu chwarae heb dorfeydd yn bresennol, a bydd modd eu ffrydio yn rhad ac am ddim.

“Gêm anodd” – Colin Caton

Mae rheolwr Y Bala Colin Caton yn disgwyl “gêm anodd” yn erbyn Valletta FC, meddai.

“Mae hi’n mynd i fod yn gêm anodd, dw i’n ymwybodol bod timau Cymreig (Y Drenewydd) wedi curo Valletta o’r blaen ond maen nhw wedi dod â chwaraewyr i mewn i’r garfan yr wythnos hon, a byddwn yn wynebu tîm hollol wahanol i’r un wnaeth Y Drenewydd ei herio.

“Dw i’n meddwl y bydd hi’n gêm dda.”

Scott Ruscoe yn falch o fod yn chwarae gartref

“Dw i’n falch iawn ein bod yn chwarae gartref, rydym yn wynebu tîm sydd yn hen lawiau ar gystadlaethau Ewropeaidd ac mae’n rhaid i ni barchu hynny,” meddai Scott Ruscoe, rheolwr Y Seintiau Newydd.

“Rydan ni’n edrych ymlaen am y sialens.”

Ychwanegodd Capten Y Seintiau Newydd Chriss Marriott at sylwadau Scott Ruscoe.

“Yn amlwg, rydym yn gwybod y bydd hi’n gêm anodd,” meddai.

“Ond dw i’n credu bod chwarae gartref yn rhoi cyfle gwych i ni fynd drwodd mewn gêm un cymal”

Dolenni

Bydd modd gwylio gêm Y Bala yma.

A bydd gêm Y Seintiau Newydd yn cael ei ffrydio ar wefannau Facebook a YouTube.