Mae’r cyflwynydd Scott Minto wedi gadael ei swydd gyda Sky Sports, ddiwrnod yn unig ar ôl i’r sylwebyddion Matt Le Tissier, Charlie Nicholas a Phil Thompson adael y sianel.

Roedd e wedi bod yn y swydd ers 13 o flynyddoedd, ac fe ddywedodd mai penderfyniad y sianel oedd ei ymadawiad.

Mewn datganiad, dywed Sky eu bod nhw’n gwneud newidiadau i’w trefniadau i ddarlledu pêl-droed ac maen nhw wedi diolch i’r rhai sy’n gadael.

Ond mae’r ymateb i’r penderfyniad wedi bod yn chwyrn.

Serch hynny, mae’r sylwebydd Ian Wright wedi amddiffyn penderfyniad Sky gan herio’r “hiliaeth” mae’n honni sydd wrth wraidd y feirniadaeth o’r sianel.

“Beth sydd a wnelo Micah Richards, Alex Scott, Sol Campbell, Clinton Morrison neu unrhyw byndit croenddu arall â phenderfyniad Sky i waredu’r bois yma?” meddai mewn fideo ar Twitter.

“Beth mae’r bois hyn wedi’i wneud?

“Oherwydd gallai person croenddu neu ddynes groenddu gael y cyfle i wneud y swydd hon. Pam fod pobol wedi’u hypsetio?”

Mae’n dweud bod y penderfyniad yn adlewyrchu dymuniad Sky “i esblygu”.