Yn dilyn cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon yng Nghymru yn ddiweddar, mae pobol yn cael eu hannog i ystyried effaith gwersylla anghyfreithlon ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
Mae llythyr agored a gafodd ei lofnodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a RSPB Cymru yn annog pobol i ymddwyn yn gyfrifol ac aros mewn gwersyllfaoedd dynodedig yn unig.
“Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol a brawychus mewn achosion o wersylla anghyfreithlon yr haf hwn,” meddai’r llythyr.
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, felly mae angen i bawb fod yn wyliadwrus o hyd a Chadw Cymru’n Ddiogel drwy ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ar olchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
“Gall gwersylla anghyfreithlon ei gwneud hi’n anodd dilyn y canllawiau hyn.”
‘Ar draul natur ac eraill
Un o’r rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr yw Clare Pillman, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er ei bod hi’n annog pobol i fynd allan a mwynhau’r awyr agored yng Nghymru, mae’n pwysleisio na ddylai hynny ddigwydd ar draul natur.
“Rydyn ni’n gwybod bod y cyfnod clo wedi bod yn galed ar bawb”, meddai.
“Er ein bod ni i gyd yn awyddus i ddychwelyd i fwynhau’r awyr agored rydyn ni a’n partneriaid yn gofyn i hyn beidio â digwydd ar draul natur ac eraill.”
Llonyddwch nid aflonyddwch
Yn ôl Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, mae bywyd gwyllt wedi dod i arfer â’r llonyddwch dros y misoedd diwethaf.
“Rydym yn gofyn yn garedig i ymwelwyr â gwarchodfeydd natur beidio ag achosi aflonyddwch,” meddai.
“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi sylwi ar bobol yn gosod pebyll, faniau a chartrefi modur dros nos yn rhai o warchodfeydd natur yr RSPB.
“Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at broblemau fel taflu sbwriel, blocio ffyrdd a llwybrau, niweidio cynefinoedd ac, ar adegau, enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae mwyafrif yr ymwelwyr yn parchu byd natur ac ar ôl misoedd o gyfnod clo, ac rydym yn awyddus i bawb allu mwynhau’r bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru.”