Mae’r elusennau Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig wedi dweud bod argymhelliad Llywodraeth Cymru i ddisgyblion dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb ddim yn mynd yn ddigon pell.
Mae’r elusennau wedi croesawu’r cyhoeddiad, ond yn pryderu am blant sy’n agored i niwed ag asthma.
Nid yw Llywodraeth Cymru am orfodi eu defnydd mewn ysgolion.
Bydd gofyn, felly, i ysgolion a chynghorau benderfynu a oes angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol ac ar gludiant ysgol.
‘Cymru gam ar ei hôl hi’
“Mae’n hanfodol ein bod yn cael plant yn ôl i’r ystafell ddosbarth, tra hefyd yn cadw cyfradd yr haint i lawr – mae gorchuddion wyneb yn caniatáu i ni wneud hynny”, meddai Joseph Carter, Pennaeth Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig.
“Rydym ychydig yn siomedig nad yw’r cyhoeddiad yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol.
“Mae hyn yn rhoi Cymru gam ar i hôl hi gymharu â gweddill y DU – heb sefyllfa unedig a chlir, fydd hyn ond yn arwain at ddryswch ac ansicrwydd i athrawon, rhieni a disgyblion.”
‘Y gwaethaf o ddau fyd’
Er i Lywodraeth Cymru ddweud fod “fawr o werth i orchuddion wyneb i blant o dan 11 oed,” mae Suzy Davies, Gweinidog Cysgolol y Ceidwadwyr dros Addysg, wedi rhannu ei phryder nad oes arweiniad gwahanol ar gyfer ysgolion gwahanol.
“Bydd angen arweiniad gwahanol ar ysgolion cynradd ac ysgolion anghenion arbennig i gymharu gydag ysgolion uwchradd”, meddai.
“Mae’r cyhoeddiad gan y Gweinidogion Iechyd ac Addysg yn enghraifft o’r gwaethaf o ddau fyd, gan roi’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau ysgolion a chynghorau, wrth geisio rhyddhau ei hun o’r cyfrifoldeb am y penderfyniad.
“Dylai’r llywodraeth yma yng Nghymru fod wedi dangos arweinyddiaeth – dydy’r llywodraeth heb wneud hynny – a dylai nhw fod wedi cyhoeddi canllawiau clir.”
Ychwanegodd Suzy Davies fod y cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at yr “anghysondeb a negeseuon cymysg” gan Lywodraeth Cymru dros wisgo masgiau.
Ers mis Gorffennaf, mae’n ofynnol i bobol wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Ond Cymru yw’r unig wlad yng Ngwledydd Prydain lle nad yw hi’n ofynnol i bobol wisgo masgiau wrth siopa.
Beirniadu’r modd y gwnaed y cyhoeddiad
Mae Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, hefyd wedi dweud ei bod yn “annerbyniol” na chafodd y cyhoeddiad ei gyflwyno yn ystod y cyfarfod llawn ddydd Mercher.