Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod nhw’n argymell bod disgyblion dros 11 oed yn gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd lle nad yw pellter cymdeithasol yn bosib.
Argymhelliad Prif Swyddog Meddygol Cymru yw i bob aelod o’r cyhoedd dros 11 oed wisgo masg mewn lleoliadau dan do lle na ellir cynnal pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a chludiant ysgol.
Ond nid yw Llywodraeth Cymru am orfodi eu defnydd mewn ysgolion. Bydd gofyn, felly, i ysgolion a chynghorau benderfynu a oes angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol ac ar gludiant ysgol.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Sefydliad Iechyd y Byd awgrymu y dylai pobol ifanc dros 12 oed orfod wisgo masgiau os ydyn nhw yn yr un lleoliadau ag oedolion.
“Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc, rhieni a’r gweithlu addysg yn teimlo’n hyderus bod pob mesur yn cael ei gymryd i’w hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau”, meddai’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, a’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams mewn datganiad ar y cyd.
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a cholegau, ac mae ysgolion wedi gweithio’n galed i weithredu mesurau diogelwch.
“Roedd y cyfle i ddisgyblion fynychu’r ysgol cyn diwedd tymor yr haf i wirio, dal i fyny a pharatoi yn caniatáu i ysgolion brofi’r mesurau hyn.”
Tra bod hi’n ofynnol i blant dros 11 oed wisgo masgiau, dywedodd y Gweinidogion fod “fawr o werth i orchuddion wyneb i blant o dan 11 oed”.
Pwysleisiodd y Gweinidogion hefyd fod rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau pobol ifanc.
“Mae angen pellhau cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth o hyd, felly gall addysgu wyneb yn wyneb heb orchuddion barhau.
“Rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol pobol ifanc ac ni ddylai fod unrhyw risg o gael gwaharddiad oddi ar drafnidiaeth i’r ysgol [am beidio gwisgo masg].
“Os ydy masgiau yn cael eu hargymell yn lleol, efallai y bydd angen darparu gorchuddion wyneb i bobol ifanc nad oes ganddyn nhw fasgiau”.
Rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig
Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi dweud bod masgiau i ddisgyblion yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol o ysgolion.
Mae’r Alban hefyd yn dweud y dylid eu gwisgo ar fysiau ysgol.
Yn Lloegr, bydd angen masg mewn coridorau ysgolion yn yr ardaloedd sydd dan fesurau clo arbennig.