Mae Prif Weinidog Prydain wedi addo cyfarfod â theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dywedodd y grŵp ‘Covid-19 Bereaved Families for Justice’ eu bod wedi gofyn am gyfarfodydd gyda Boris Johnson ar sawl achlysur gwahanol.

Wrth siarad â Sky News, dywedodd Mr Johnson nad oedd yn ymwybodol o unrhyw lythyrau gan y grŵp, ond dywedodd y byddai’n ymateb.

Ychwanegodd y byddai “wrth gwrs” yn cyfarfod â’r teuluoedd.

Yn gynharach y mis hwn, clywodd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar y Coronafirws gan deuluoedd mewn profedigaeth a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu “sgubo o dan y carped” gan Lywodraeth Prydain.

Dywedodd aelodau eu bod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod er mwyn rhannu eu profiadau, ond dywedwyd wrthynt nad oedd swyddogion yn gallu cyfarfod “oherwydd y pandemig presennol”.

Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd cadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar y Coronafirws, Layla Moran o’r Democratiaid Rhyddfrydol, at Mr Johnson i ddweud ei bod wedi’i syfrdanu o glywed ei fod wedi “gwrthod” cwrdd â’r grŵp – sy’n cynrychioli 1,600 o deuluoedd.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Sky News: “Nid wyf yn ymwybodol o’r llythyrau hynny ond wrth gwrs byddaf yn ateb pob llythyr a gawn.

“Wrth gwrs y byddaf yn cwrdd â’r teuluoedd mewn profedigaeth.”

Dywedodd Jo Goodman, cyd-sylfaenydd Covid-19 Bereaved Families for Justice, a gollodd ei thad, Stuart, i’r feirws: “Rydym yn croesawu bod Boris Johnson o’r diwedd wedi cytuno i gyfarfod â ni.

“Ni ddylai fod wedi cymryd misoedd iddo gytuno, a dim ond ychydig ddyddiau y dylai fod cyn iddo ddigwydd. Y cyfan rydym eisiau yw atal eraill rhag mynd drwy’r un boen â ni.”