Mae un o gyd-sylfaenwyr y grŵp newid yn yr hinsawdd, ‘Extinction Rebellion’, wedi’i gadw yn y ddalfa, a hynny cyn penwythnos o weithredu arfaethedig, meddai’r heddlu.

Mae Roger Hallam, 54, o Wandsworth yn ne-orllewin Llundain, ymhlith pump o bobl sydd wedi’u cyhuddo o gynllwynio i achosi niwed troseddol.

Ymddangosodd ef a phedwar arall yn Llys Ynadon Highbury Corner ddydd Mawrth a chawsant eu cadw yn y ddalfa, meddai’r Heddlu Metropolitan.

Dywedodd llefarydd ar ran ‘Extinction Rebellion’ fod pedwar o’r pump yn bendant yn gysylltiedig â’r grŵp newid yn yr hinsawdd.

Cawsant eu harestio ddydd Llun 24 Awst a’u cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad llys nesaf yn Llys y Goron Wood Green y mis nesaf.

Dywedodd cefnogwyr Extinction Rebellion fod protestiadau wedi’u cynllunio mewn gwahanol leoliadau ledled Prydain y penwythnos hwn, cyn eu hymgyrch mawr nesaf yn Llundain yr wythnos nesaf.