Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd y tymor newydd yn ailddechrau ar Fedi 11, ond ni fydd torfeydd yn cael mynychu gemau.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a chynghrair Cymru Premier JD ar gynllun i ailddechrau’r gynghrair, gyda’r tymor newydd i ddechrau ar Fedi’r 11eg,” meddai datganiad ar wefan y Gymdeithas.

“Bydd gemau yn cael eu cynnal heb dorf yn gychwynnol, wrth i Lywodraeth Cymru gymryd camau pwyllog yn sgil pandemig COVID-19.”

Penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn “annheg” – Paul Evans

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, Paul Evans, wedi dweud wrth golwg360 bod penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn “annheg”

“Rydan ni’n cefnogi’r penderfyniad i fynd yn ôl i chwarae ond ddim i chwarae heb dorfeydd,” meddai.

“Mae’r clwb yn dibynnu’n llwyr ar arian noddwyr a chefnogwyr, felly mae’r Gymdeithas yn cymryd hanner llif incwm ni oddi wrtha ni.

“Rydan ni wedi gofyn am iawndal er mwy’n cyfro’r gost, ond hyd yma maen nhw wedi dweud nad oes cefnogaeth ar gael.

“Dw i’n meddwl bod hynny yn annheg, oherwydd gan fod y clwb yn denu tua 650 bob wythnos, mae diffyg torfeydd yn mynd i effeithio ni fwy na chlybiau eraill.”

Y sefyllfa’r “un peth i bawb” – Gavin Allen

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Gavin Allen, wedi ymateb i’r newyddion na fydd torfeydd yn cael mynychu gemau drwy ddweud wrth golwg360 bod y sefyllfa’r “un peth i bawb.”

“Fel clwb, o ran yr ochr ariannol a strwythur y clwb ers blynyddoedd maen nhw’n gwybod lle maen nhw, mae yno budget ac rydan ni’n hapus efo sut mae’r clwb wedi cael ei redeg yn ariannol dros y deg blynedd diwethaf,” meddai.

“Ydi, mae o’n golled peidio gallu cael 300 o bobol drwodd i gefnogi’r tîm ac yn golled ariannol.

“Ond beth faswn i’n ddweud ydi bod o’r un peth i bawb a dw i’n gobeithio yn y chwe wythnos neu ddau fis nesaf y bydd posib dod a’r cefnogwyr yn ôl i mewn.”