Mae Gwyddel newydd tîm criced Morgannwg yn dweud bod “curo Lloegr yn golygu tipyn i’r wlad gyfan ac i boblogaeth griced Iwerddon”.

Arweiniodd Andrew Balbirnie ei wlad i fuddugoliaeth belawd olaf gyda chanred wrth i’r Gwyddelod ennill y gêm 50 pelawd o dair wiced gyda phelen yn unig yn weddill o’r gêm, ac mae e newydd ymuno â Morgannwg ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Dyna oedd ei fatiad olaf ar y cae criced cyn dod i Gymru, ac mae’n dweud ei fod e’n awyddus i berfformio i’w sir newydd hefyd.

“Dyna’r gêm griced ddiwetha’ i fi chwarae ynddi,” meddai.

“Roedd hi’n un gofiadwy iawn, amgylchiadau cwbl unigryw heb bobol yn ei gwylio hi, ond roedd hi’n golygu cryn dipyn i’r wlad ac i’r boblogaeth griced yn Iwerddon.

“Pan ydych chi’n cwrso 320, rhaid i chi fynd ati’n galed ac fe lwyddodd Paul [Stirling, ei bartner batio] i wneud hynny, ac fe lwyddais i i chwarae ail feiolin.

“Pan gewch chi bartneriaeth o’r fath, mae’n mynd yn bell wrth ennill gêm griced.

“Roedd hi’n wych ac yn un o uchafbwyntiau ’ngyrfa griced.

“Gobeithio y galla i fynd â’r fath berfformiadau i mewn i’r Blast dros Forgannwg.”

Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol yng Nghaerdydd, chwaraeodd e i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC ochr yn ochr ag Andrew Salter, troellwr Morgannwg.

Ac mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at gynrychioli sir Gymreig yn erbyn timau o Loegr.

“Dw i’n cofio o ’nyddiau’n astudio yma, ac o fynd i ambell gêm rygbi, gymaint o elyniaeth sydd.

“Yn y lle cyntaf, dw i eisiau ennill gemau i Forgannwg a gobeithio y gallwn ni wneud hynny a dathlu’r rheiny.”

Agor y drws i’r Gwyddelod

Yn ôl Andrew Balbirnie, mae’r cyfyngiadau teithio sy’n golygu na all chwaraewyr tramor fel Colin Ingram, batiwr tramor Morgannwg, deithio’n bell yn rhoi cyfle i Wyddelod ddod i chwarae i’r siroedd.

“Mae’n amlwg yn adeg unigryw lle nad yw timau’n gallu dod â’u chwaraewyr mawr draw o Awstralia a De Affrica, felly roedd y drws ar agored i chwaraewyr Gwyddelig,” meddai.

“Mae gyda ni 19 o chwaraewyr ar gytundebau llawn amser nôl adre’, ond efallai nad oes cymaint o griced ag y bydden ni’n ei hoffi.

“Yn amlwg mae wedi bod yn wahanol iawn i bawb, felly mae hynny wedi bod yn eithaf anodd.

“Felly roedd cael y cyfle i ddod yma ac i rai o’r bois eraill fynd i Northants a Gareth Delaney i Gaerlŷr, mae hynny’n rhoi ffenest siop arbennig i ni wrth symud ymlaen, a phwy a ŵyr beth allai ddigwydd?

“Os ydyn ni’n perfformio’n dda, gobeithio y gall rhywbeth ddigwydd yn y dyfodol.”

Dod i Gymru

Mae Morgannwg wedi cyrraedd Diwrnod y Ffeinals ddwywaith yn y gorffennol, ond erioed wedi cael chwarae yn y gêm derfynol.

Roedd yr ymgyrch ugain pelawd yn un siomedig i’r sir y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw ennill un gêm yn unig wrth guro Swydd Hampshire yn y gêm olaf a chael un gêm gyfartal allan o gyfanswm o ddeg o gemau.

Mae Andrew Balbirnie wedi chwarae mewn 70 o gemau undydd dros ei wlad, gan daro chwe chanred, ac wedi chwarae 43 o weithiau mewn gemau ugain pelawd ac mae ganddo fe gyfradd sgorio o 129.

Bydd ei brofiad helaeth yn werthfawr wrth iddo fe geisio efelychu Colin Ingram, un o hoelion wyth Morgannwg dros y tymhorau diwethaf.

“Dw i wedi gweld sawl sgôr ganddo fe dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Fe wna i ’ngorau ond maen nhw’n esgidiau enfawr i’w llenwi.

“Dw i yma i gyfrannu at fuddugoliaethau a gobeithio y galla i wneud hynny.

“Daeth Morgannwg â fi draw yma a gobeithio y galla i ad-dalu hynny gyda pherfformiadau da.

“Mae’r bois newydd orffen gêm pedwar diwrnod a byddan nhw wrthi eto’n syth yn y T20 felly rhaid i ni fwrw iddi.

“Bydd y gemau’n dod yn gyflym ond rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n dechrau gyda buddugoliaeth oherwydd os gallwch chi gael rhywfaint o fomentwm, gyda’r gemau’n dod mor aml, gobeithio y gall rhywbeth arbennig ddigwydd.”

Wynebu hen ffrind

Nid dyma’r tro cyntaf iddo fe chwarae yn y gêm sirol, yn dilyn cyfnod gyda Middlesex

Yn ystod y gystadleuaeth, bydd cyfle i Andrew Balbirnie fynd ben-ben â hen ffrind a chydwladwr, Paul Stirling, fydd yn chwarae i Swydd Northampton.

“Bydd hynny’n ddiddorol,” meddai.

“Dw i heb chwarae yn ei erbyn e ryw lawer, ond dw i’n siŵr y bydd e’n dweud wrth fois Northants sut i ’nghael i ma’s!

“Mae e’n amlwg yn chwaraewr o safon fyd-eang ac mae’n mynd i fod yn un o’u batwyr cryfa’ nhw, felly rhaid i ni sicrhau y gallwn ni ei gael e ma’s mor gynnar â phosib.”

Morgannwg v Swydd Gaerwrangon

Bydd Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd nos yfory (nos Iau, Awst 27) ar gyfer y gêm gyntaf yn y Vitality Blast.

Dydyn nhw ddim wedi herio’i gilydd mewn gêm ugain pelawd ers 2013, pan enillodd Morgannwg o bum wiced wrth gwrso 158.

Tarodd Jim Allenby hanner canred oddi ar 42 o belenni cyn i seren y gêm Murray Goodwin gyrraedd yr un garreg filltir oddi ar 30 o belenni wrth i Forgannwg gwrso 100 i ennill oddi ar ddeg pelawd ola’r gêm.

Mae’r ymwelwyr wedi cyhoeddi mai Ed Barnard fydd eu capten ar gyfer y gystadleuaeth pan na fydd Moeen Ali ar gael.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), A Balbirnie, D Douthwaite, B Root, C Taylor, G Wagg, A Salter, M Hogan, P Sisodya, M de Lange, T van der Gugten, O Morgan, K Carlson, L Carey