Bydd gêm agoriadol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn y Ffindir yn cael ei chynnal yn Helsinki ar ôl i Lywodraeth y Ffindir gymeradwyo cais eu Cymdeithas Bêl-droed i ganiatáu i garfan Ryan Giggs deithio heb gwarantin.

Doedd lleoliad y gêm – a fydd yn cael ei chwarae ar 3 Medi – ddim wedi’i gadarnhau cyn hyn oherwydd mesurau cwarantîn llym yn y Ffindir a gyflwynwyd yn sgil pandemig y coronafeirws.

Rheoliadau yn sgil y pandemig

Dywed rheoliadau’r Ffindir fod yn rhaid i bobl sy’n dod i mewn i’r wlad o’r Deyrnas Unedig fynd i gwarantin am 14 diwrnod, er y gall y llywodraeth ffederal wneud eithriadau.

Roedd dyddiad cau UEFA ar gyfer pennu lleoliad wedi mynd heibio heb gyhoeddiad swyddogol, ond dywedodd Cymdeithas Bêl-droed y Ffindir ddydd Mercher (26 Awst) y byddai’r gêm yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeëdig yn Stadiwm Olympaidd Helsinki, sydd newydd ei hadnewyddu.

Dywedodd Marco Casagrande, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed y Ffindir: “Mae’r rheoliadau […] ar gyfer timau a chwaraewyr yn llym iawn ac mae’r timau yn eu swigod eu hunain, yn y Ffindir ac ym mhobman arall.

“Mae glynu’n gaeth at y protocol hwn yn ffactor hollbwysig ac yn amod i’r awdurdodau allu caniatáu’r gêm.”

Ychwanegodd Cymdeithas Bêl-droed y Ffindir y bydd pethau’n cael eu hegluro’n fanylach yn ystod dydd Mercher a dydd Iau, gyda chyhoeddiad yn ddiweddarach.

Carfan Cymru

Enwodd rheolwr Cymru, Ryan Giggs, garfan 26 dyn ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn y Ffindir a Bwlgaria ddydd Mawrth.

Datgelodd Giggs yn ei gyhoeddiad y byddai Gareth Bale, Aaron Ramsey, Rabbi Matondo a James Lawrence, sydd oll yn chwarae dramor, yn cael profion Covid-19 ar ôl cyrraedd.

Ychwanegodd y byddai’r pedwarawd hefyd yn teithio i Gymru ar awyrennau preifat i leihau’r risg o haint.

Carfan y Ffindir

Roedd prif hyfforddwr y Ffindir, Markku Kanerva, wedi gohirio cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru a gêm ddilynol yn erbyn Iwerddon.

Mae’r Ffindir yn chwarae Iwerddon yn Nulyn dri diwrnod ar ôl eu gêm agoriadol Cynghrair B, Grŵp 4 yn erbyn Cymru.

Bydd Kanerva yn awr yn cyhoeddi ei garfan ddydd Iau.