Mae disgwyl i dîm pêl-droed Cymru deithio i Helsinki er gwaetha’r dryswch ynghylch cyfyngiadau teithio’r coronafeirws ar hyn o bryd.
Bydd tîm Ryan Giggs yn herio’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar Fedi 3 ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd modd cynnal y gêm yn y brifddinas oherwydd rheolau cwarantîn.
Mae adroddiadau y gallai UEFA symud y gêm i wlad arall er mwyn hwyluso’r sefyllfa, gyda’r gêm naw diwrnod yn unig i ffwrdd.
Yn ôl rheolau’r Ffindir, rhaid i bobol sy’n teithio yno o wledydd Prydain ynysu am 14 diwrnod, ond mae modd i’r llywodraeth ffederal wneud rhai eithriadau.
Fe ddaeth y dryswch i’r fei fore heddiw (dydd Mawrth, Awst 25) pan wnaeth y Ffindir ohirio’r gynhadledd i gyhoeddi eu prif garfan a’r garfan dan 21.
Ond mae Ryan Giggs yn bwriadu bwrw ymlaen gyda threfniadau Cymru am y tro tan bod rhagor o wybodaeth am y sefyllfa.