Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd tîm rygbi’r Southern Kings o Dde Affrica yn tynnu’n ôl o gynghrair y PRO14, fe ddaeth i’r amlwg bellach na fydd y Cheetahs yn rhan o’r gystadleuaeth y tymor nesaf chwaith.

Er i’r Southern Kings dynnu’n ôl oherwydd eu sefyllfa ariannol, mae’n debyg mai cyfyngiadau ar deithio oherwydd y coronafeirws yw’r rheswm pam fod y Cheetahs wedi penderfynu tynnu’n ôl.

Bydd hyn yn gweld y gynghrair yn dychwelyd i fod yn gystadleuaeth â 12 tîm pan fydd y tymor newydd yn dechrau fis Hydref.

Dydy trefnwyr y gynghrair ddim yn rhagweld y bydd unrhyw broblemau i dimau ô’r Eidal deithio.

Ond dydy hi ddim yn glir eto sut fydd y gemau’n cael eu trefnu – dychwelyd i’r hen drefn o 22 o gemau neu gadw at y trefniant presennol o ddwy adran o chwech.

Ymunodd y ddau dîm o Dde Affrica â’r gynghrair yn 2017.