Mae Gareth Southgate, rheolwr tîm pêl-droed Lloegr, yn dweud ei fod e’n cefnogi Harry Maguire er bod capten Manchester United yn sefyll ei brawf ar ôl cael ei arestio ar noson allan yng Ngwlad Groeg.

Yn ôl Maguire, cafodd ei hun yng nghanol ffrwgwd ar ôl i’w chwaer gael ei chwistrellu yn ei braich gan griw o ddynion ar noson allan.

Mae Maguire wedi’i enwi yng ngharfan Lloegr er gwaetha’r helynt, ac mae Southgate yn dweud bod yr hyn mae’r chwaraewr yn ei ddweud am y sefyllfa’n wahanol iawn i’r ffrwgwd a gafodd sylw yn y wasg.

Fe ddigwyddodd y ffrwgwd ar ynys Mykonos yr wythnos ddiwethaf, a chafodd tri o ddynion eu harestio a’u dwyn i’r ddalfa.

“Does gen i ddim rheswm i amau’r hyn mae e’n ei ddweud wrtha i ac mae’n bwysig ei fod e’n gwybod fy mod i’n ei gefnogi fe ar hyn o bryd,” meddai Gareth Southgate, sy’n dweud mai barnu ar sail y wybodaeth sydd ganddo fe yw’r unig ateb.

“Os yw’r ffeithiau neu’r wybodaeth yn newid, bydd rhaid i fi adolygu’r penderfyniad hwnnw, ond mae gyda fi berthynas wych gyda’r boi.

“Mae e wedi bod yn gymeriad gwych i ni, a dw i’n ei gefnogi fe ar hyn o bryd.”