Mae Hal Robson-Kanu yn dychwelyd i garfan bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers 2017 ar ôl gwneud tro pedol yn dilyn ei ymddeoliad.

Wedi’u cynnwys am y tro cyntaf yn y garfan genedlaethol mae’r amddiffynnwr canol Ben Cabango a’r cefnwr Neco Williams, y naill wedi creu argraff i Abertawe a’r llall i Lerpwl.

Bydd tîm Ryan Giggs yn herio’r Ffindir oddi cartref ar Fedi 3 cyn croesawu Bwlgaria i Gaerdydd ar Fedi 6 yng Ngynghrair y Cenhedloedd.

Dydy’r tîm cenedlaethol ddim wedi chwarae ers deg mis o ganlyniad i’r coronafeirws.

Bydd holl gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn cael eu cynnal heb dorf.

Carfan Cymru: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies; Chris Gunter, Ashley Williams, Ben Davies, Connor Roberts, Tom Lockyer, Ethan Ampadu, James Lawrence, Ben Cabango, Neco Williams, Aaron Ramsey, Jonny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Matthew Smith, Daniel James, Will Vaulks, Joe Morrell, Dylan Levitt, Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts, Rabbi Matondo, Kiefer Moore

Carfan dan 21

Yn y cyfamser, mae Ben Woodburn wedi’i gynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru am y tro cyntaf erioed.

Dydy e erioed wedi chwarae i’r tîm ar ôl neidio o’r garfan dan 19 i’r garfan lawn.

Y garfan: Adam Przybek, George Ratcliffe, Cameron Coxe, Brandon Cooper, Regan Poole, Jack Evans, Joe Lewis, Terry Taylor, Nathan Broadhead, Robbie Burton, Morgan Boyes, Liam Cullen, Harry Clifton, Jack Vale, Aaron Lewis, Luke Jephcott, Mark Harris, Ben Woodburn, Brennan Johnson, Ryan Stirk