Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Reading gyhoeddi na fydd y Cymro Mark Bowen yn parhau’n rheolwr.

Fe ddaw yn dilyn ymadawiad y prif weithredwr Nigel Howe yr wythnos hon, gyda Dayong Pang yn ei olynu.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae’n debygol y bydd y Cymro’n dychwelyd i’w swydd flaenorol yn Gyfarwyddwr Chwaraeon y clwb.

Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Technegol fis Mawrth y llynedd, cyn cael ei ddyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Chwaraeon fis Awst y llynedd.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ym mis Hydref yn dilyn ymadawiad Jose Gomes, gan arwain y tîm i’r pedwerydd safle ar ddeg yn y Bencampwriaeth.