Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu’r chwaraewr canol cae Morgan Gibbs-White ar fenthyg o Wolves ar gyfer y tymor newydd.
Mae’r chwaraewr 20 oed wedi chwarae i Wolves 70 o weithiau, gan chwarae rhan allweddol yn Uwch Gynghrair Lloegr a Chynghrair Ewropa y tymor diwethaf.
Mae’n dilyn Freddie Woodman a Korey Smith i’r Liberty, y naill yn golwr sy’n dychwelyd ar fenthyg am ail dymor, a’r llall yn chwaraewr canol cae oedd newydd adael Bristol City.
Mae Gibbs-White yn un arall o garfan Lloegr dan 17 enillodd Gwpan y Byd dan reolaeth Steve Cooper yn 2017, gan sgorio yn y rownd derfynol wrth i’r Saeson guro Sbaen o 5-2.
Roedd yr ymosodwr Rhian Brewster, yr amddifynnwr canol Marc Guehi, a’r chwaraewr canol cae Conor Gallagher i gyd ar fenthyg gyda’r Elyrch y tymor diwethaf.