Mae tîm rybi’r Southern Kings o Dde Affrica wedi tynnu’n ôl o gemau cystadleuol, gan gynnwys cynghrair y PRO14, am dymor yn sgil trafferthion ariannol.

Cafodd y chwaraewyr a’r staff wybod am y penderfyniad heddiw (dydd Mawrth, Awst 25) yn dilyn cyfarfod o’r bwrdd rheoli.

Dywed y cadeirydd Andre Rademan fod y penderfyniad yn un “syml” yn sgil y sefyllfa ariannol.

Byddai cystadlu yn y cystadlaethau eraill yn gofyn am sicrhau benthyciadau ychwanegol gwerth R6.5m (bron i £300,000), meddai, gan ddweud y byddai hynny’n ychwanegu at y dyledion.

Dywed nad oes gorfodaeth gytundebol i’r Southern Kings gystadlu yn y PRO14 yn y tymor byr yn sgil cyfyngiadau teithio.

Mae’n cydnabod na fydd yn “benderfyniad poblogaidd” ond yn dweud mai dyma’r “penderfyniad cywir”.

Mae’r rhanddeiliaid SA Rugby ac Undeb Rygbi Eastern Province yn cefnogi’r penderfyniad, yn ôl y cadeirydd.

Bydd ymgynghoriad pellach â’r chwaraewyr a’r staff dros yr wythnosau nesaf, meddai.

Mae’r Southern Kings dan reolaeth SA Rugby ar ôl iddyn nhw dderbyn 74% o gyfrannau’r cwmni ar y cyd ag Undeb Rygbi Eastern Province, a hynny ar ôl i’r cwmni Greatest Rugby Company in the Whole Wide World fethu ag ymrwymo’n ariannol.