Gallai Hal Robson-Kanu ddychwelyd i garfan bêl-droed Cymru ar ôl gwneud tro pedol ynghylch ei ddyfodol.

Bydd Ryan Giggs yn cyhoeddi ei garfan heddiw (dydd Mawrth, Awst 25) ar drothwy gemau oddi cartref yn y Ffindir (Medi 3) a chartref yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd (Medi 6) yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fe wnaeth yr ymosodwr golli ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Ewro 2020 ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad am resymau teuluol.

Ond fe wnaeth e wyrdroi’r penderfyniad hwnnw’n ddiweddarach.

Sgoriodd e ddeg gôl mewn 39 o gemau i West Brom y tymor diwethaf wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Neco Williams, cefnwr Lerwpl, a Ben Cabango, amddiffynnwr canol Abertawe, gael eu cynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar ôl torri trwodd a chreu argraff i’w clybiau.