Mae rasys ceffylau oedd i fod i gael eu cynnal yng Nghas-gwent yfory (dydd Mercher, Awst 26) wedi cael eu canslo gan fod y cwrs dan ddŵr.

Cafodd archwiliad ei gynnal fore heddiw (dydd Mawrth, Awst 25) ar ôl i law trwm gwympo ar gwrs oedd eisoes yn wlyb iawn.

Cwympodd 55mm o law yno yr wythnos ddiwethaf, a does dim modd cynnal rasys yno am y tro yn dilyn 25mm arall o law.