Mae Andy Murray wedi dychwelyd i’r byd tenis cystadleuol drwy drechu Alexander Zverev, detholyn rhif saith y byd, o dair set i ddim yn rownd 32 olaf y Western & Southern Open.

Dywed yr Albanwr ei fod yn teimlo’n “ffit”, a dyma ei fuddugoliaeth gyntaf dros chwaraewr yn y 10 uchaf ers 2017.

Enillodd yr ornest mewn dwy awr a 31 munud.

Roedd yn berfformiad cadarnhaol gan Andy Murray, sydd wedi cyfaddef ei fod wedi gostwng ei ddisgwyliadau ers brwydro gydag anafiadau, gyda Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn dechrau ar Awst 31.

“Dw i ddim yn credu bod yr un ohonom wedi chwarae yn dda iawn ond efallai bod hynny i’w ddisgwyl gan nad ydym wedi chwarae ers cyfnod mor hir,” meddai Andy Murray.

Bydd e nawr yn herio Milos Raonic, wnaeth drechu’r Prydeiniwr Dan Evans, yn rownd yr 16 olaf.

Mae Andy Murray 9-3 ar y blaen mewn gemau blaenorol rhwng y ddau, gydag un fuddugoliaeth yn dod yn rownd derfynol Wimbledon yn 2016.

“Rydym wedi chwarae yn erbyn ein gilydd mewn rhai gemau mawr,” meddai.

“Mae e wedi cael problemau gydag anafiadau hefyd, felly mae’n dda ei weld yn ôl.”