Sgoriodd Marchant de Lange y canred cyflymaf erioed yn nhermau pelenni yn hanes Morgannwg heddiw, wrth iddo fe gadw’r sir o fewn cyrraedd i Swydd Northampton ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm yn Nhlws Bob Willis yn Northampton.
Daeth y garreg filltir oddi ar 62 o belenni, y nifer leiaf erioed gan drechu’r record flaenorol o 64 gan Gary Butcher yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn 1997, ac fe gymerodd e 74 munud – bedair munud yn fwy na’r record amser i’r sir, gyda Gilbert Parkhouse (yn erbyn Swydd Northampton yn 1961) a Majid Khan (yn erbyn Swydd Warwick yn 1972) yn dal eu gafael ar y record honno.
Ond mae’n sicr wedi torri’r record ar gyfer y sgôr gorau erioed gan fatiwr rhif deg i Forgannwg, wrth i’w 113 heb fod allan, oedd yn cynnwys chwe phedwar a naw chwech, guro 101 heb fod allan gan Johnnie Clay yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn San Helen yn 1929.
Ar ôl cyrraedd ei hanner canred oddi ar 29 o belenni, daeth ei ail hanner cant oddi ar 33.
Ar ôl bod yn 60 am wyth, roedd y ddwy bartneriaeth olaf yn werth 201 ac fe wnaeth Morgannwg frwydro’n ôl i sgorio 261 i gyd allan, gan osod nod o 189 i Swydd Northampton ennill.
Erbyn diwedd y dydd, roedd y Saeson yn 62 am un, ar ôl i Ben Curran gael ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar ei fowlio’i hun.
Manylion y dydd
Ar ddechrau’r dydd, roedd Swydd Northampton yn 288 am bump yn eu batiad cyntaf, ac ar y blaen o drwch blewyn, ond fe gollon nhw eu pum wiced olaf am 41, wrth i Michael Hogan barhau i aros am ei chwe chanfed wiced dosbarth cyntaf.
Cipiodd de Lange dair o’r bum wiced, gyda Douthwaite a Timm van der Gugten yn cipio un yr un, ac fe fyddai’r tîm cartref yn siomedig nad oedden nhw wedi llwyddo i adeiladu blaenoriaeth fwy swmpus.
Ond yr un hen stori oedd hi o safbwynt batwyr Morgannwg, wrth iddyn nhw gwympo un ar ôl y llall gan wynebu’r embaras o golli o fewn tridiau ar ôl bod yn 16 am bump ar un adeg.
Ar wahân i Dan Douthwaite gyda’i sgôr gorau erioed i Forgannwg (86), dim ond y capten Chris Cooke gafodd sgôr ffigurau dwbwl (14) wrth i Blessing Muzarabani (3-67) a Jack White (4-35) wneud niwed i’r Cymry, gyda’r troellwr Simon Kerrigan yn cipio dwy wiced, gan gynnwys wiced fawr de Lange a gafodd ei ddal gan Rob Keogh, wrth ddychwelyd ar ôl absenoldeb o dair blynedd.
Ond y ddwy bartneriaeth olaf achubodd y Cymry, gyda Douthwaite a de Lange yn ychwanegu 168 am y nawfed wiced mewn llai nag ugain pelawd, a de Lange a Michael Hogan (21 heb fod allan) yn ychwanegu 33 am y wiced olaf.
Roedd Douthwaite hefyd wedi taro naw pedwar a thri chwech a Hogan dri phedwar wrth i Forgannwg lwyddo i wneud y nod yn fwy cystadleuol a sicrhau bod y gêm yn cyrraedd ei diwrnod olaf.
Hyd yn oed os na fydd Morgannwg yn ennill – ac mae ganddyn nhw lygedyn o obaith – byddan nhw’n ddiolchgar i Marchant de Lange am eu hachub rhag dioddef un o’r chwalfeydd mwyaf truenus ers sawl blwyddyn.
‘Anghredadwy ac anhygoel’
“Anghredadwy” ac “anhygoel” oedd disgrifiad Marchant de Lange o’i fatiad ar ddiwedd y dydd.
“Mae’n anghredadwy o’m safbwynt i’n bersonol,” meddai.
“Mae’n anhygoel cael record yn y llyfrau, ro’n i jyst eisiau cyfrannu ar ran y tîm.
“Fe wnes i drio chwarae pob pelen yn unigol.
“Ro’n i a Dan eisiau partneriaeth, ac roedden ni’n gwybod pe baen ni’n gallu cael batio ar ochr fer y cae, byddai’n mynd yr holl bellter.
“Does dim cyfrinach i fi ar gyfer batio, dw i ond yn trio gweld y bêl, taro’r bêl a’i chadw hi’n syml.”