Bydd gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni yn cael eu darlledu’n rhad ac am ddim ar S4C.

Mae Cymru mewn grŵp gyda Gweriniaeth Iwerddon, Y Ffindir a Bwlgaria, gyda’r gêm gyntaf oddi gartref yn erbyn Y Ffindir ar 3 Medi am 7:45yh.

Yna, bydd dynion Ryan Giggs yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd er mwyn herio Bwlgaria ar 6 Medi am 2 y p’nawn.

Bydd y tîm sy’n cyrraedd brig y grŵp yn hawlio lle yng Nghynghrair A lle mae timau gorau Ewrop yn cystadlu am y bencampwriaeth.

Rhestr gemau Cymru

Y Ffindir v Cymru
Medi 3 – 7:45yh

Cymru v Bwlgaria
Medi 6 – 2:00yh

Iwerddon v Cymru
Hydref 11 – 2:00yh

Bwlgaria v Cymru
Hydref 14 – 7:45yh

Cymru v Iwerddon
Tachwedd 15 – 5:00yh

Cymru v Y Ffindir
Tachwedd 18 – 7:45yh