Enillodd Bayern Munich Gynghrair y Pencampwyr neithiwr (nos Sul, Awst 23), a hynny am y chweched tro yn ei hanes, gan drechu pencampwyr Ffrainc, Paris St-Germain, o un gôl i ddim.
Roedd Paris St-Germain yn ceisio ennill y tlws am y tro cyntaf.
Sgoriodd yr asgellwr Kingsley Coman, wnaeth ddechrau ei yrfa gyda Paris St-Germain, ar ôl 58 munud, gan benio croesiad Joshua Kimmich wrth y postyn pellaf.
Roedd hi’n noson wych i Brif Hyfforddwr Bayern Munich, Hansi Flick, sydd wedi llwyddo i ychwanegu Cynghrair y Pencampwyr i lwyddiant y clwb yn y Bundesliga a Chwpan yr Almaen eleni.
Ond roedd hi’n noson hynod siomedig i Paris St-Germain, gyda’u sêr Neymar a Kylian Mbappe yn cael eu gwadu gan gôl-geidwad Bayern Munich, a seren y gêm, Manuel Neuer.
Methodd chwaraewr drytaf y byd, Neymar, gyfle euraid funudau cyn i’r hanner cyntaf ddod i ben.
Bayern Munich yw’r tîm cyntaf erioed i ennill y tlws drwy ennill pob gêm mewn ymgyrch Cynghrair y Pencampwyr.