Mae colofnydd pêl-droed yn Sbaen yn cynghori Gareth Bale i “gau ei geg” pan fydd e’n dod adref i Gymru ar gyfer y gemau rhyngwladol nesaf.

Mae’r berthynas rhwng y chwaraewr a’i glwb wedi gwaethygu ers iddo ddal baner oedd yn dweud ‘Wales. Golf. Madrid. In that order’ ar ôl i dîm Ryan Giggs guro Hwngari i sicrhau eu lle yn Ewro 2020.

Y Ffindir a Bwlgaria yw gwrthwynebwyr Cymru yn ystod y ffenest ryngwladol ymhen llai na phythefnos, ac mae Jésus Gallego o gyhoeddiad AS wedi atgoffa’r Cymro o’i ddyletswydd i’w glwb.

Mae’n dweud bod y faner ddadleuol yn “jôc sâl”, ac yn awgrymu y bydd Gareth Bale yn parhau i ennill arian mawr yn Real Madrid hyd yn oed os nad yw’n llwyddo i gyrraedd y cae.

“Mae’n wael nad yw e’n chwaraewr pwysig ym Madrid, ond byddai’n warthus pe bai e’n parhau i ddangos diffyg parch i’r clwb,” meddai’r colofnydd.

“Felly cau ei gadw a chadw i fynd.”