Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Abertawe ddenu Morgan Gibbs-White, ymosodwr 20 oed Wolves, ar fenthyg am dymor.

Roedd e’n aelod o garfan dan 17 oed Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 2017 o dan reolaeth Steve Cooper, rheolwr yr Elyrch.

Chwaraeodd e saith gwaith i Wolves yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2019-20, ac mae e wedi chwarae mewn 70 o gemau i’r clwb.

Mae’n dilyn tri aelod arall o garfan dan 17 oed Lloegr oedd wedi chwarae yn y Liberty y tymor diwethaf – Marc Guehi, Conor Gallagher a Rhian Brewster.

Er bod Conor Gallagher wedi dychwelyd i Chelsea, mae’r Elyrch yn gobeithio ymestyn cyfnodau Brewster a Guehi ar fenthyg am dymor arall.

Ond mae sawl clwb yn cwrso Brewster ar ôl tymor llwyddiannus yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.