Mae gan Swydd Northampton flaenoriaeth fach dros Forgannwg – ond pum wiced wrth gefn – ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm pedwar diwrnod yn Nhlws Bob Willis yn Northampton.

Wrth ymateb i sgôr o 259 i gyd allan, roedd y Saeson yn 82 am un ar ddechrau’r dydd, ac yn 288 am bump pan ddaeth y chwarae i ben.

Dau chwaraewr 24 oed oedd y sêr gyda’r bat, wrth i Ben Curran (82) a Charlie Thurston (115) adeiladu partneriaeth o 176 am yr ail wiced.

Manylion y bore

Cyn y gêm, roedd angen un wiced ar Michael Hogan i gyrraedd y garreg filltir o 600 o wicedi dosbarth cyntaf i’r sir, ac mae’n dal i aros.

A diwrnod digon rhwystredig gafodd gweddill y tîm hefyd wrth i’r capten Ricardo Vasconcelos a Ben Curran ddechrau’n gadarn ac roedden nhw’n dal i fynd yn gryf erbyn amser cinio, a’u partneriaeth erbyn hynny’n werth 168.

Dyma oedd ail sgôr Thurston o 50 neu fwy i Swydd Northampton, a’i drydydd mewn gemau dosbarth cyntaf – ac yntau ond yn chwarae yn ei seithfed gêm i’r sir. Fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir oddi ar 67 o belenni.

Pan gyrhaeddodd Curran yr un garreg filltir, roedd e eisoes wedi taro saith pedwar oddi ar 112 o belenni – ei ail hanner canred y tymor hwn, a’i seithfed mewn 17 o gemau dosbarth cyntaf.

Erbyn cinio, roedd y Saeson yn 194 am un a Morgannwg dan gryn bwysau i geisio atal y llif.

Sesiwn y prynhawn

Dechreuodd y Saeson sesiwn y prynhawn 65 o rediadau ar ei hôl hi.

Ond roedden nhw’n 202 am ddwy yn gynnar yn y sesiwn pan gipiodd Nick Selman chwip o ddaliad yn y slip i waredu Curran oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Cafodd Thurston ei ollwng yn fuan wedyn ond yn ddiweddarach yn yr un belawd, gyrrodd Luke Procter at Dan Douthwaite yn yr ochr agored, a Swydd Northampton bellach yn 210 am dair a Morgannwg wedi sicrhau pwynt bonws.

Parhau i lithro wnaeth Swydd Northampton pan gafodd Thurston ei fowlio gan y troellwr Taylor am 115 ac erbyn hynny, roedden nhw’n 234 am bedair.

Serch hynny, daeth y glaw wedyn i’w hachub am gyfnod cyn iddyn nhw gymryd te yn gynnar am 3.10yp.

Ond colli wiced arall wnaeth y tîm cartref ar ôl dychwelyd i’r cae ddwy awr yn ddiweddarach, wrth i Rob Keogh gael ei fowlio gan Dan Douthwaite am 20, a’r sgôr yn 273 am bump.

Ychwanegodd Vasconcelos a Saif Zaib 15 o rediadau cyn diwedd y dydd.