Mae’r Dreigiau wedi crafu gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn 14 dyn y Gweilch, ar ôl i George North weld cerdyn coch am dacl flêr yn yr awyr ar Ashton Hewitt.
Roedd y Gweilch yn mynd am drydedd buddugoliaeth yn unig yn y PRO14, ond fe gostiodd diffyg disgyblaeth yn ddrud iddyn nhw, wrth orfod chwarae tri chwarter y gêm ag un dyn yn llai na’u gwrthwynebwyr.
Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn debygol hyd y diwedd i’r Gweilch, hyd nes bod Hewitt yn dod o dan y chwyddwydr eto wrth groesi yn eiliadau ola’r gêm i unioni’r sgôr.
Oni bai bod Sam Davies wedi methu’r trosiad, gallai’r tîm o Went yn hawdd iawn fod wedi cipio’r pwyntiau i gyd.
Manylion y gêm
Ar ôl i’r chwaraewyr, ac eithrio Richard Hibbard a Brok Harris – fynd ar eu pengliniau cyn y gic gyntaf, y Gweilch gafodd y gorau o’r chwarae yn y munudau agoriadol.
Fe wnaeth y mewnwr Rhys Webb ymosod o’r cychwyn, gan orfodi camgymeriad yn y ryc gan y Dreigiau, a chiciodd Stephen Myler ei driphwynt cyntaf i’r Gweilch.
Ar ôl i’r Dreigiau ildio cic gosb arall ar y llinell hanner rai munudau’n ddiweddarach, daeth cyfle eto i’r Gweilch ymosod yn ddwfn yn hanner eu gwrthwynebwyr, ac fe wnaeth George North groesi am gais cynta’r gêm, wedi’i drosi gan Myler.
Tarodd y Dreigiau’n ôl ar ôl 13 munud, pan groesodd Ashton Hewitt am gais a phwyntiau cynta’i dîm, a throsiad Davies yn ei gwneud hi’n 10-7.
Ond funud yn ddiweddarach, daeth y dacl dyngedfennol gan North ac fe gafodd ei anfon o’r cae gan y dyfarnwr Adam Jones ar ôl iddo droi at y dyfarnwr fideo Sean Brickell.
Gallai’r Dreigiau fod wedi unioni’r sgôr bron yn syth, ond aeth ymgais Davies heibio’r postyn i gadw ychydig o bellter yn y sgôr.
Ar ôl gwrthsefyll tua saith munud o ymosodiadau, ildiodd y Gweilch gais arall wrth i’r prop Leon Brown hyrddio at y llinell i roi ei dîm ar y blaen o 12-10, ond methodd Davies ag ymgais arall at y pyst.
Dair munud yn unig barodd y fantais, wrth i Myler gicio cic gosb i’w gwneud hi’n 13-12 i’r tîm cartref.
Ac roedd gwell i ddod i’r Gweilch cyn yr egwyl, wrth i’r bachwr Sam Parry dderbyn pas gan Kieran Williams a chroesi o dan y pyst cyn i Myler ei drosi.
Tarodd y Dreigiau’n ôl gyda chic gosb yn hwyr iawn yn yr hanner i leihau’r bwlch i bum pwynt.
Yr ail hanner
Ar ôl pum munud o’r ail hanner, fe wnaeth Parry groesi’r llinell gais ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd e wedi tirio’r bêl yn gywir.
Ar ôl cyfnod hir o bwysau, daeth cyfle i’r Gweilch ond methodd Myler â chic gosb o 40 llath ar ôl 57 munud.
Roedd y Dreigiau’n credu eu bod nhw wedi unioni’r sgôr ar ôl 65 munud wrth i Dafydd Howells groesi yn y gornel, ond roedd Owen Jenkins wedi bwrw’r bêl ymlaen mewn cymal yn arwain at y cais wrth i Davies gicio’n lletraws.
Daeth siom eto i Howells, oedd yn credu ei fod e wedi tirio’r bêl ond penderfynodd y dyfarnwr fideo ei fod e wedi gollwng ei afael arni cyn tirio.
Ond Hewitt gafodd y gair olaf gyda phum munud yn weddill, ar ôl cyfnod o ymosod gan yr eilydd Aaron Wainwright i gario’r bêl tua’r llinell cyn i Hewitt groesi yn y gornel.
Gallai’r Dreigiau fod wedi ennill gyda chic lwyddiannus, ond roedd y pellter a’r ongl yn ormod i Davies, ac roedd rhaid bodloni ar rannu’r pwyntiau yn y pen draw.