Tarodd Callum Taylor o Gasnewydd ganred yn ei gêm pedwar diwrnod gyntaf i Forgannwg ar ddiwrnod cynta’r gêm yn erbyn Swydd Northampton yn Nhlws Bob Willis yn Northampton.
Dyma’r pedwerydd tro yn unig i chwaraewr Morgannwg daro canred yn ei gêm gyntaf ar lefel dosbarth cyntaf – y tri arall yw Frank Pinch yn 1921 (138 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn Abertawe), Matthew Maynard yn 1985 (102 yn erbyn Swydd Efrog yn Abertawe) a Mike Powell (200 heb fod allan yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn 1997).
Sgoriodd Taylor 106 oddi ar 94 o belenni mewn ychydig dros ddwy awr, gan daro 11 pedwar a chwech chwech mewn record o bartneriaeth (124) gyda Michael Hogan ar ôl i’r tîm lithro i 135 am naw.
Sgoriodd ei bartner 33 heb fod allan ben draw’r llain wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 259.
Pan ddaethon nhw ynghyd, dim ond 27 oedd gan Callum Taylor, a hynny ar ôl wynebu 46 o belenni.
Ond fe sgoriodd e’r 79 rhediad arall oddi ar 48 o belenni yn bartneriaeth allweddol gyda Hogan, a’r garreg filltir yn dod oddi ar 88 o belenni.
Gyda’i gilydd, fe wnaeth Taylor a Hogan wynebu 68 o belenni i dorri’r record am y degfed wiced i Forganwg yn erbyn Swydd Northampton a sicrhau’r bedwaredd bartneriaeth wiced olaf orau erioed i’r sir.
Wrth ymateb, roedd y tîm cartref yn 82 am un erbyn diwedd y dydd.
Un ar ôl y llall
Wrth chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth, fe wnaeth Morgannwg dri newid wrth i Joe Cooke ddod i mewn yn lle Charlie Hemphrey, tra bod Callum Taylor yn chwarae yn lle Tom Cullen a Michael Hogan yn lle Graham Wagg.
Fe wnaeth Joe Cooke – nad yw’n perthyn i’r capten Chris Cooke – oroesi pelen gynta’i fatiad pan gafodd ei ollwng yn y slip gan Emilio Gay oddi ar fowlio Blessing Muzarabani.
Tarodd e ddau bedwar cyn i Jack White daro’i goes o flaen y wiced i ddod â phartneriaeth agoriadol i ben ar 33 cyn i’r momentwm fynd o blaid Morgannwg.
Gallai Kiran Carlson fod wedi cael ei ddal yn y slip oddi ar ei ail belen, ond cafodd hwnnw ei ollwng hefyd gan Saif Zaib.
Ar ôl absenoldeb o dair blynedd, dychwelodd Simon Kerrigan i’r byd criced gyda’i sir newydd ac fe gipiodd e ddaliad oddi ar fowlio Muzarabani i waredu Carlson yn isel oddi ar belen lac.
Dechreuodd Morgannwg sesiwn y prynhawn ar 74 am ddwy a phedair pelawd yn unig barodd Nick Selman wrth iddo gynnig daliad i’r wicedwr Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio White.
Roedd Billy Root ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn o fewn pelawd pan roddodd e ddaliad i Zaib yn y slip oddi ar fowlio Brett Hutton.
Cwympodd y bumed wiced ar 93 wrth i Chris Cooke gael ei fowlio gan Hutton, ac roedden nhw’n 106 am chwech pan gafodd Dan Douthwaite ei ddal gan Vasconcelos oddi ar fowlio White.
Fe wnaeth chwech droi’n saith wrth i Vasconcelos gipio daliad arall, y tro hwn oddi ar fowlio Muzarabani i waredu Timm van der Gugten.
… ond Taylor yn brwydro o hyd
Roedd Callum Taylor yn dal i frwydro pan ymunodd Kieran Bull â fe yn y canol, ond buan iawn y dychwelodd Bull i’r pafiliwn ar ôl iddo yntau hefyd gynnig daliad i’r wicedwr oddi ar fowlio Hutton.
Pan ddaeth Marchant de Lange i’r llain, roedd Morgannwg yn 123 am wyth ond roedden nhw’n 135 am naw o fewn dim o dro pan gafodd ei ddal yn y slip gan Zaib oddi ar fowlio Hutton, oedd wedi gorffen gyda phedair wiced am 77.
Daeth hanner canred Taylor oddi ar 64 o belenni, ac fe wnaeth yr ergydion i’r ffin barhau, nid yn unig i Taylor ond i Hogan hefyd.
Rhyngddyn nhw, fe wnaethon nhw daro 13 pedwar a naw chwech ac erbyn diwedd y batiad, roedden nhw wedi rhagori ar bartneriaeth Allan Watkins a Don Shepherd o 115 ar yr un cae yn 1958.
Daeth ail bwynt batio i Forgannwg yn niwedd y batiad cyn i Taylor gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Charlie Thurston oddi ar fowlio White, oedd wedi gorffen gyda phedair wiced am 48.
23 pelawd ola’r dydd
Erbyn i Swydd Northampton fatio, roedd ganddyn nhw 23 pelawd i’w hwynebu cyn diwedd y dydd.
Dechrau digon cadarn gafodd Emilio Gay a Ben Curran ar frig y batiad i’r tîm cartref cyn i Marchant de Lange ddal Gay oddi ar ei fowlio’i hun am 15, a’r sgôr yn 26 am un o fewn deg pelawd.
Ond ar ôl i Charlie Thurston ymuno â Curran wrth y llain, ychwanegon nhw 56 yn ddiguro am yr ail wiced erbyn diwedd y dydd.
Ymateb Callum Taylor
“Ro’n i wedi cyffroi’n lân o gyrraedd y cant, fel wnes i ddangos gyda fy ymateb,” meddai Callum Taylor.
“Mae llawer o bethau’n mynd trwy eich meddwl cyn eich gêm gyntaf, ac un ohonyn nhw yw sgorio canred ac fe ddigwyddodd hynny, felly weithiau mae’r hyn sydd yn eich dychymyg yn cael ei wireddu.
“Roedd disgwyl mawr y bydden ni’n colli’r wiced olaf yn gyflym, felly fe wnes i a Hoges ddangos bach o fwriad.
“Fe wnaeth hynny fy rhyddhau i a Mick i ddangos bwriad positif.
“Dw i wedi gwireddu breuddwyd wrth chwarae, ond mae sgorio canred yn y gêm gyntaf yn swreal a dw i wedi cyffroi ar gyfer y dyfodol.”