Mae’r Scarlets wedi sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws o 32-12 yn erbyn y Gleision ar Barc y Scarlets wrth i rygbi ranbarthol ddychwelyd am y tro cyntaf ers ymlediad y coronafeirws.
Sgoriodd yr asgellwr Steff Evans ddau gais, ac roedd cais yr un i’r blaenasgellwr Ed Kennedy, y clo Sam Lousi a’r asgellwr arall Johnny McNicholl.
Ciciodd Leigh Halfpenny ddau drosiad a chic gosb.
Daeth ceisiau’r Gleision gan Josh Adams a Matthew Morgan, gydag un trosiad oddi ar droed Jarrod Evans.
Yn ogystal â cholli, bydd y Gleision wedi cael siom yn sgil anaf i ysgwydd y mewnwr Tomos Williams, a hynny ar ôl i’w wrthwynebydd yng nghrys y Scarlets, Gareth Davies adael y cae yn ystod yr hanner cyntaf.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion y Scarlets o gyrraedd y gemau ail gyfle’n fyw, gyda thriphwynt yn eu gwahanu nhw a Munster, a phum pwynt rhyngddyn nhw a Chaeredin ar y brig.
Cafodd y gêm ei chynnal heb dorf yn unol â chyfyngiadau’r coronafeirws, tra bo’r chwaraewyr hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch wrth-hiliaeth drwy fynd ar eu pengliniau cyn y gic gyntaf.
Bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau yn y gêm ddarbi Gymreig arall yfory (dydd Sul, Awst 23).