Mae Harry Maguire, capten tîm pêl-droed Manchester United, wedi gadael y ddalfa ar ôl pledio’n ddieuog o drosedd yn dilyn ffrwgwd â heddlu Gwlad Groeg.

Mae e wedi bod ar ei wyliau gyda’i ffrindiau ers i’w dîm fynd allan o Gynghrair Ewropa yn erbyn Sevilla.

Cafodd ei arestio ar ddiwrnod y ffeinal ddoe (dydd Gwener, Awst 21) yn dilyn digwyddiad ar ynys Mykonos.

Aeth gerbron llys yn Syros fore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 22).

Mae lle i gredu y bydd e’n gadael Gwlad Groeg ac yn dod adref gan nad oes angen iddo fod mewn gwrandawiad pellach, sydd wedi’i ohirio am dridiau.

Mae Clwb Pêl-droed Manchester United wedi gwrthod gwneud sylw pellach am y mater ar ôl dweud bod eu capten yn “cydymffurfio’n llawn” ag ymchwiliad yr heddlu.

Y digwyddiad

Yn ôl yr heddlu, cafodd plismon ei daro wrth geisio atal ffrwgwd ac fe wnaeth tri dyn geisio osgoi cael eu harestio drwy “wthio a churo’r tri phlismon”.

Dywedodd yr heddlu fod y tri dyn – 27, 28 a 29 oed – wedi cael eu harestio ym Mykonos.

Dywedodd yr heddlu fod plismyn wedi cael eu sarhau yn ystod y digwyddiad a’u taro â dyrnau wrth gyrraedd gorsaf yr heddlu.

Fe wnaeth un o’r tri dyn gynnig arian i’r heddlu er mwyn osgoi wynebu cyhuddiadau.