Mae cynlluniau i ddenu mwy o fenywod a merched i chwarae golff yng Nghymru’n dwyn ffrwyth, wrth i glybiau weld cynnydd yn eu haelodaeth.

Mae corff Golff Cymru newydd gynnal wythnos arbennig i fenywod a merched lle’r oedd modd i ddechreuwyr a phobol sydd heb chwarae ers tro ymuno â grwpiau a dod yn aelodau o glybiau, gan dreulio amser ar y cwrs golff, cael sesiynau hyfforddi a manteisio ar gynigion arbennig i aelodau.

Mae rhaglen golff a ffitrwydd SWISH yn cael ei chynnal mewn chwe chlwb yn y gogledd dan arweiniad Robin Hughes.

“Ar draws SWISH, mae gynnon ni wyth o grwpiau yr wythnos, sydd â chyfartaledd o 10 i 30 o bobol ym mhob un,” meddai.

“Bydd gynnon ni dri hyfforddwr yn y sesiynau fel bod digon o amrywiaeth ar gyfer pytio, clybiau haearn a dreifio.

“Mae gynnon ni dri o grwpiau yng ngogledd Cymru hefo oddeutu 50 o bobol – eisoes eleni rydan ni wedi cael 40 o bobol yn ymuno hefo New2Golf.

“Rydan ni’n ceisio dileu cymaint â phosib o’r rhwystrau i golff i’w gwneud hi’n haws i fenywod ddod, boed hynny’n offer, hyder neu sicrhau ein bod ni’n cymdeithasu wedyn efo diod meddal neu prosecco.

“Mae’r wisg yn hamddenol wrth ddod i hyfforddi ac mae’r menywod yn teimlo eu bod nhw’n gallu gofyn unrhyw beth i’r ‘pros’.

“Rydan ni’n cael sesiynau hwyl ac yn mynd allan ar y cwrs, yn cynnig digon o amrywiaeth ac mae’r adborth yn bositif iawn.”

Llwyddiant yn y de

Mae’r cynllun New2Golf hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn y de, yn enwedig yn Sir Benfro.

“Roedden ni’n awyddus i drio New2Golf fel rhan o strategaeth y clwb i ddenu aelodau newydd a dyna pryd ddechreuon ni weithio gyda Golff Cymru,” meddai Donna Grimwood, cadeirydd marchnata Clwb Golff De Sir Benfro a Gwirfoddolwr y Flwyddyn Golff Cymru.

“Roedden ni’n edrych am ffyrdd newydd o symud y clwb yn ei flaen a dyna ddechreuodd y bêl i rowlio.

“Mae hefyd wedi’i anelu at ddynion ond y llynedd, roedd mwy o fenywod.

“Roedd mwy nag 20 o fenywod, rhai yn wragedd aelodau, rhai am chwarae yn eu hymddeoliad a rhai sy’n gydweithwyr ac wedi bod eisiau rhoi cynnig ar golff.

“Mae wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn rhywbeth rydyn ni am ei dyfu cymaing ag y gallwn ni a dechrau grŵp arall o bosib.”