Mae trafodaethau wedi’u cynnal yn y gobaith o ddarlledu holl gemau Cynghrair Bêl-droed Lloegr ar Sky Sports pan fydd y tymor newydd yn dechrau.

Y gobaith yw y bydd modd ffrydio’r holl gemau ar wefannau’r clybiau drwy gydol tymor 2020-21.

Ar hyn o bryd, mae gan Sky Sports hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau’r gynghrair a Chwpan Carabao.

Dydy cefnogwyr ddim wedi gallu mynd i gemau ers iddyn nhw ailddechrau ym mis Mehefin yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

Bydd y polisi’n parhau ar gyfer y tymor newydd sy’n dechrau ar Fedi 12, ond bydd darlledu gemau’n galluogi’r clybiau i adennill peth o’r arian sydd wedi’i golli wrth y gatiau.

Y gobaith yw y bydd modd adolygu’r polisi o ddarlledu gemau’n gyson fel bod modd i gefnogwyr ddilyn y cyfan o’u cartrefi eu hunain hyd nes y bydd modd dychwelyd i’r caeau.

Mae’n dilyn patrwm y cynnig oedd ar gael i ddeiliaid tocynnau tymor yn niwedd y tymor diwethaf.