Mae disgwyl i’r Cymro Callum Taylor chwarae yn ei gêm pedwar diwrnod gyntaf i Forgannwg heddiw (dydd Sadwrn, Awst 22), wrth iddyn nhw deithio i herio Swydd Northampton yn Nhlws Bob Willis.

Mae’r batiwr Joe Cooke hefyd wedi’i gynnwys, ac mae disgwyl iddo yntau hefyd chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir, tra bo’r bowliwr cyflym Michael Hogan hefyd yn dychwelyd ar ôl gorffwys ar gyfer y gêm ddiwethaf.

Mae Morgannwg yn bumed yn y gystadleuaeth ar hyn o bryd, naw pwynt ar y blaen i’w gwrthwynebwyr, ond dydy’r naill sir na’r llall ddim wedi ennill yr un gêm eto.

‘Golygu popeth’

Mae Callum Taylor, sy’n 22 oed ac yn fab i Matthew Taylor, cyn-gapten tîm rygbi Pontypŵl, wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer y gemau blaenorol heb fod wedi chwarae hyd yn hyn.

“Byddai’n golygu popeth i fi pe bawn i’n cael chwarae yn fy ngêm gyntaf yn erbyn Northants,” meddai.

“Dw i wedi bod yn gweithio’n galed i gyrraedd lle’r ydw i nawr, ac mae’n gyfnod cyffrous i fi a fy nheulu.”

Mae disgwyl iddo fe fatio yng nghanol y rhestr ac fe allai fowlio hefyd, ac yntau’n droellwr – yr un dull â Kiran Carlson, Cymro ifanc arall a gipiodd bum wiced yn ei gêm gyntaf i Forgannwg yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn 2016.

“Gobeithio y galla i ei efelychu fe o ran disgwyliadau pe bai gofyn i fi wneud,” meddai.

Carfan Swydd Northampton: R Vasconcelos (capten), N Buck, B Curran, E Gay, B Hutton, R Keogh, S Kerrigan, B Muzarabani, L Procter, T Sole, C Thurston, J White, S Zaib

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Bull, K Carlson, J Cooke, T Cullen, M de Lange, D Douthwaite, M Hogan, B Root, N Selman, C Taylor, T van der Gugten, G Wagg