Mae Rygbi’r Alban wedi cael caniatâd i groesawu nifer gyfyngedig o gefnogwyr i stadiwm Murrayfield yr wythnos nesaf i wylio gêm Caeredin yn erbyn Glasgow ar Awst 28.

Dyma fydd y gêm rygbi broffesiynol gyntaf yng ngwledydd Prydain i groesawu cefnogwyr ers i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu cyflwyno fis Mawrth.

Daw’r cyhoeddiad ar benwythnos cyntaf y Pro14, pan fydd gemau darbi traddodiadol yn cael eu cynnal yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.

Yng Nghymru, bydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision heddiw (dydd Sadwrn, Awst 22) tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau yfory (dydd Sul, Awst 23).

Eglurodd Dominic McKay, Prif Swyddog Gweithredu Rygbi’r Alban, fod Rygbi’r Alban wedi cydweithio’n agos â Llywodraeth yr Alban er mwyn caniatáu i nifer gyfyngedig o gefnogwyr gael mwynhau’r gêm rhwng Caeredin a Glasgow y penwythnos nesaf.

“Hoffai Rygbi’r Alban ddiolch i Weinidogion y Llywodraeth a swyddogion sydd wedi ein helpu i wneud i hyn ddigwydd, a’n cydweithwyr ein hunain a luniodd gynllun gweithredol cadarn ar gyfer y gêm,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y gall ein profiad a’r hyn rydym yn ei ddysgu helpu chwaraeon yr Alban, a’r diwydiant digwyddiadau ehangach i ailgychwyn.”

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i archebu tocynnau yn cael ei chyhoeddi gan Rygbi’r Alban yr wythnos nesaf.