Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru yn dechrau ym mis Medi.
Mae’r gynghrair wedi cael statws athletaidd elît gan Lywodraeth Cymru.
Daw hyn ar ôl i’r Gymdeithas Bêl-droed gydweithio â Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a Chynghrair Cymru Premier JD ar gynllun i ailddechrau’r gynghrair ar Fedi 11.
Bydd gemau’n cael eu cynnal heb gefnogwyr i ddechrau.
Sêl bendith i ambell ddigwyddiad awyr agored
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â rhoi sêl bendith i dri digwyddiad awyr agored gyda thorf o 100 o bobol dros y tair wythnos nesaf.
Os bydd y tri digwyddiad yn mynd rhagddyn nhw’n ddiogel, mae’n bosib y bydd modd cynnal digwyddiadau â rhagor o bobol.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi anfon cynlluniau at Gynghrair Cymru Premier JD er mwyn bod yn rhan o dreial gyda thorfeydd mwy yn y dyfodol.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r 12 clwb yng Nghynghrair Cymru Premier JD wedi bod yn cydweithio â’r Gymdeithas Bêl-droed a’r prif ddarlledwr S4C i gytuno ar reolau pellter cymdeithasol ar gyfer y gemau.
Yn ogystal â phrofi tymheredd yr holl chwaraewyr a staff, bydd ‘Ardal Goch’ ym mhob gêm er mwyn lleihau nifer y bobol o amgylch y chwaraewyr.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i newid eu canllawiau ynglŷn â’r cynghreiriau o dan Haen 1 ar hyn o bryd.