Mae Harry Maguire, capten tîm pêl-droed Manchester United, wedi cael i arestio yng Ngwlad Groeg ar drothwy ffeinal Cynghrair Europa yn yr Almaen.
Aeth e ar ei wyliau ar ôl i’w dîm fynd allan o’r gystadleuaeth yr wythnos ddiwethaf, ac mae adroddiadau ei fod e a dau Sais arall wedi bod mewn ffrwgwd â’r heddlu ar ynys Mykonos.
Cafodd amddiffynnwr druta’r byd ei arestio gan yr heddlu neithiwr (nos Iau, Awst 20).
Yn ôl swyddfa’r wasg yr heddlu, roedd ffrwgwd a ffrae â’r heddlu, ac mae disgwyl i’r tri fynd gerbron yr erlynydd heddiw (dydd Gwener, Awst 21).
Dywed Clwb Pêl-droed Manchester United fod y chwaraewr 28 oed yn “cydymffurfio’n llawn” â’r ymchwiliad.
Datganiad pellach
Mewn datganiad pellach, dywed yr heddlu eu bod nhw wedi ceisio tawelu ffrae rhwng nifer o bobol.
Bryd hynny, fe wnaeth y tri Sais ddechrau ymosod arnyn nhw a’u taro â’u dyrnau.
Fe geisiodd un ohonyn nhw dalu’r heddlu fel na fydden nhw’n dwyn achos yn eu herbyn.