Mae Gwion Källmark Williams, asgellwr Clwb Rygbi Bethesda, wedi’i ddewis yng ngharfan ymarfer Undeb Rygbi Sweden.
Mae Gwion, sydd yn 27 oed, wedi ei fagu ym Mangor ac yn gymwys i chwarae i Sweden oherwydd bod ei fam yn hanu o’r wlad.
“Hogyn Bangor dw i, ond ma’ Dad o’r canolbarth a ma’ Mam o Sweden,” meddai wrth siarad â golwg360 o gartref ei deulu ger dinas Gothenburg.
“Dw i wedi bod yn mynd nôl ag ymlaen i Sweden i weld y teulu ers i mi gael fy ngeni, ac mae’n wlad sy’n agos iawn at fy nghalon.
“O’n i’n chwarae rygbi i Fangor pan oeddwn i’n ifanc, ac wedyn ar ôl rhoi’r gorau i rygbi am gyfnod fues i’n codi pwysau i Gymru cyn ymuno a Chlwb Rygbi Bethesda ryw bedair blynedd yn ôl.”
Cynrychiolodd Gymru yn y gystadleuaeth codi pwysau yn y Bencampwriaeth Geltaidd yn 2015.
Mae newydd gwblhau ei ymarfer dysgu a bydd yn dechrau fel athro sawl pwnc yn Ysgol Dyffryn Nantlle fis Medi.
Effaith Covid-19 ar rygbi yn Ewrop
Eglurodd Gwion Källmark Williams ei fod yn falch o fod wedi cael y cyfle i fynd i ymarfer yn Sweden, a hynny ar ôl i Covid-19 darfu ar ei gynlluniau gwreiddiol.
“O’n i fod i fynd draw i Sweden fis Ebill er mwyn paratoi ar gyfer gemau rhyngwladol yn erbyn Hwngari a’r Weriniaeth Tsiec, ond oherwydd y pandemig daeth bob dim i stop,” meddai.
“Ers hynny mae’r hyfforddwyr wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â’r chwaraewyr dros y we cyn dod â phawb ynghyd wythnos yma i ymarfer am y tro cyntaf ers cyn y cyfnod clo.
“Dan yr amgylchiadau, mae pawb yn cael eu profi yn rheolaidd am y feirws.
“O ran hyfforddi mae bob dim wedi i gynllunio yn ofnadwy o fanwl. Mae diwrnodau cyfan o hyfforddi, a da ni’n torri’r sgiliau a’r gêm i fyny’n fanwl iawn – rhywbeth da chi’n disgwyl gydag unrhyw chwaraeon cenedlaethol mewn gwirionedd.”
Undeb Rygbi Sweden
Er nad yw Sweden erioed wedi llwyddo i gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, mae’r wlad sy’n chwarae yng Nghynghrair 1 Rygbi Gogledd Ewrop yn safle 53 yn netholion y byd.
Mae Cymru yn y chweched safle ar hyn o bryd.
Eglurodd yr asgellwr fod rygbi wedi dod yn fwy poblogaidd yn Sweden dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r Undeb wedi gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo’r gêm,” medai.
“Er bod y capten yn wreiddiol o Iwerddon, a fy mod i o Gymru, a fod ambell i chwaraewr o Loegr hefyd yn rhan ô’r tîm, mae clod mawr i’r Undeb am ddatblygu chwaraewyr o Sweden.
“O’n i’n Gothenburg ddoe ac oedd hi’n anhygoel i weld bod pedwar tîm ieuenctid a thimau merched yn hyfforddi yno’n wythnosol.”
Ychwanegodd Gwion Källmark Williams nad oes gemau rhyngwladol wedi eu cadarnhau gan Rygbi Ewrop eto ac, er ei fod yn gobeithio cynrychioli ei famwlad yn y dyfodol agos, mae’n edrych ymlaen yn arw i ailddechrau ymarfer gyda Chlwb Rygbi Bethesda pan fydd yn dychwelyd adref.