Mae’r dedfrydau carchar a gafodd eu rhoi i’r rhai a laddodd y plismon Andrew Harper wedi’u cyfeirio at y Llys Apêl gan y Twrnai Cyffredinol er mwyn i farnwyr benderfynu a oedden nhw’n rhy drugarog.

Mae Suella Braverman wedi cael cais i adolygu hyd y dedfrydau ar ôl i Henry Long, 19, Albert Bowers a Jessie Cole, 18 oed, gael eu carcharu am ddynladdiad ar ddiwedd yr achos yn yr Old Bailey fis diwethaf.

Cafodd Andrew Harper, oedd yn gweithio i Heddlu Trafnidiaeth Thames Valley, ei ddal mewn strap craen wedi’i gysylltu â chefn car yr oedd Henry Long yn ei yrru, a hynny wrth i’r trio ffoi o safle lladrad yn Swydd Berkshire ar Awst 15.

Cafodd ei lusgo i’w farwolaeth ar hyd lonydd gwledig tywyll.

Cafodd Long ei ddedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar, tra bod Bowers a Cole wedi cael carchar am 13 mlynedd ar ôl i’r llys eu cael yn ddieuog o lofruddio.

Adolygiad

Cafodd yr achos ei gyfeirio at y Twrnai Cyffredinol o dan y cynllun sy’n caniatáu i ddioddefwyr troseddau, eu teuluoedd, erlynwyr neu’r cyhoedd ofyn am adolygiad o ddedfrydau sy’n rhy isel yn eu barn nhw.

All Suella Braverman ddim ond gofyn i’r Llys Apêl adolygu dedfryd y mae’n ei hystyried yn “rhy drugarog”, fel arfer mewn achosion lle mae lle i gredu bod y barnwr wedi gwneud camgymeriad neu wedi gosod dedfryd y tu allan i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn rhesymol.

“Roedd hon yn drosedd erchyll a arweiniodd at farwolaeth swyddog heddlu uchel ei barch tra’i fod ar ddyletswydd ac yn diogelu ei gymuned,” meddai.

“Ar ôl ystyried manylion yr achos brawychus hwn fy hun, rwyf wedi penderfynu cyfeirio dedfrydau y rhai laddodd y Cwnstabl Andrew Harper at y Llys Apêl.”

Ddydd Mercher, cyflwynodd Bowers a Cole geisiadau i’r Llys Apêl yn gofyn am ganiatâd i herio’r euogfarnau a’r dedfrydau – gweithred a gafodd ei disgrifio gan Debbie Adlam, mam Andrew Harper, fel “cic yn y stumog”.

Mae eu hachos yn debygol o ddigwydd ar yr un diwrnod ag y mae barnwyr y Llys Apêl yn ystyried a ddylid cynyddu eu dedfrydau mewn gwrandawiad yn ddiweddarach eleni.