Incwm Sylfaenol i Bawb – p’un a ydyn nhw mewn gwaith ai peidio. Byddai hynny’n gymorth i adfer ein cymdeithas a’r economi yn sgil llanast Covid-19 meddai Jonathan Williams, sy’n gyfreithiwr dan hyfforddiant gyda chwmni Watkins & Gunn ac sy’n enillydd diweddar categori Cyfreithiwr Iau gwobrau Cymdeithas Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch.