Wrth i’r drafodaeth yn Lloegr barhau am ‘lefelu lan’ a chynyddu ffyniant rhannau o’r wlad, mae Phil Parry yn dadlau bod angen gweithredu tebyg yng Nghymru…
“Y pella’ y mae teuluoedd o’r prif lwybrau i Loegr, fel yr M4 yn y De a’r A55 yn y Gogledd… y mwya’ yw lefel tlodi. Hyd yn oed ar ôl 21 mlynedd o Lywodraeth Cymru, mae’r ffaith berthnasol hon yn dal i fod yn wir. Ond mae mannau fel Glyn Ebwy a Phwllheli angen cymorth gymaint, os nad mwy, na Maltby [tref enghreifftiol yng ngogledd Lloegr] ac yn haeddu bod yn rhan o agenda ‘lefelu lan’.” (the-eye.wales)
Ac wrth i’r helynt ffyrnigo tros ganlyniadau arholiadau eleni, roedd o leia’ un blogiwr yn gweld ystyr arall (anfwriadol falle) yn safbwynt Llywodraeth Cymru… o ystyried bod plant llai breintiedig yn cael cam ac mai nod yr algorithm enwog oedd cynnal y sefyllfa fel y mae…
“Efallai bod y gwahaniaeth mewn perfformiad yn adnabyddus a hirhoedlog ond dyw e ddim yn deg, a fuodd e erioed yn deg. Mae rhywbeth arbennig o chwithig am lywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod anfantais hanesyddol, sydd wedi ei seilio ar gyfoeth cymharol, yn cael ei adlewyrchu’n briodol yng nghanlyniadau eleni.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)
Ac, wrth i’r drafodaeth yn Lloegr barhau am ‘lefelu lan’ a chynyddu ffyniant rhannau o’r wlad, mae Phil Parry yn dadlau bod angen gweithredu tebyg yng Nghymru…
“Y pella’ y mae teuluoedd o’r prif lwybrau i Loegr, fel yr M4 yn y De a’r A55 yn y Gogledd… y mwya’ yw lefel tlodi. Hyd yn oed ar ôl 21 mlynedd o Lywodraeth Cymru, mae’r ffaith berthnasol hon yn dal i fod yn wir. Ond mae mannau fel Glyn Ebwy a Phwllheli angen cymorth gymaint, os nad mwy, na Maltby [tref enghreifftiol yng ngogledd Lloegr] ac yn haeddu bod yn rhan o agenda ‘lefelu lan’.” (the-eye.wales)
Yn ôl Symon Hill o’r Peace Pledge Union yng Nghymru, mae gan y Llywodraeth her arall i’w hwynebu, efo sôn am gynllun i hyfforddi peilotiaid rhyfel Sawdi Arabia [sy’n ymladd yn Yemen] yn hen faes awyr Llanbedr ger Harlech…
“Ers gormod o amser, mae Drakeford a’i gydweithwyr wedi osgoi cwestiynau am eu hagweddau at filitariaeth a rhyfel… Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru gyfle nawr i ddangos eu cefnogaeth i heddwch a hawliau dynol. Fe allan nhw wrthwynebu militariaeth trwy wrthsefyll y bwriad i ddefnyddio eu tir yn Llanbedr ar gyfer safle hyfforddi milwrol newydd. Y dewis arall yw taflu eu hunain y tu cefn i’r fasnach arfau a’r peiriant militaraidd.” (leftfootforward.org)
Draw ar nation.cymru, wrth gwrs, mae’r drafodaeth yn parhau am Gymru annibynnol… a dau lais y tro yma yn awgrymu mai yn ara bach a phob yn dipyn y mae mynd ati…
“Gall y pandemig fod yn gam allweddol yn symudiad Cymru tuag at lawer rhagor o hunan-lywodraeth. Mae wedi dangos i lawer o bobol yma, fe na ddigwyddodd efallai erioed o’r blaen, y gall cael ein llywodraeth ein hunan wneud gwahaniaeth go iawn. Wrth i bobol ennill profiad o fendithion hunan-reoli, fe fyddan nhw’n dod yn fwy agored i’r syniad o fynd yr holl ffordd at annibyniaeth.” (Peter Jones ar nation.cymru)
“Efallai mewn gwirionedd mai’r gymhariaeth agosa’ i Gymru yn yr ynysoedd hyn yw Unoliaethwyr cymedrol Ulster, yn hytrach na chenedlaetholdeb yr Alban neu Iwerddon. Bedair blynedd wedi pleidlais Brexit, mae barn Cymru ar y mater hwnnw yn y bôn yn ddigyfnewid. A thra bod 20% o blaid annibyniaeth ddwywaith yn uwch na’r lefel genhedlaeth yn ôl, byddwn yn awgrymu ei fod o hyd yn golygu colli o tua dwy ran o dair. A defnyddio terminoleg rygbi: rhaid i ni gadw pêl annibyniaeth yn nhywyllwch y sgrym cyfansoddiadol tan y funud ola’ bosib. Byddai gollwng y bêl yn gynnar i refferendwm annibyniaeth yn golygu cael ein llorion gan ‘bobol Cymru’, yr union rai yr ydym yn hawlio ymgyrchu trostyn nhw.” (Carwyn Tywyn ar nation.cymru)