Marcio disgyblion ar sail algorithm oedd “y syniad gorau” ar y pryd, yn ôl un o swyddogion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.

Am na fu arholiadau eleni oherwydd yr argyfwng Covid-19, bu’n rhaid dyfarnu graddau trwy system wahanol a wnaeth hyn danio trafodaeth fywiog.

Ddydd Iau diwetha’ mi dderbyniodd disgyblion Cymru eu graddau lefelau A, ac yn wreiddiol cafodd y marciau eu dyfarnu ar sail algorithm.