Doedd dim dewis ond gwneud tro pedol a dyfarnu graddau TGAU a Lefelau A ar sail asesiadau athrawon, yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru.

Heddiw (Awst 20) mi fydd disgyblion ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, a daw hyn yn sgil helynt canlyniadau Lefelau A ddydd Iau diwetha’.

Oherwydd yr argyfwng coronafeirws doedd dim arholiadau TGAU a Lefelau A eleni, a bu’n rhaid dyfeisio ffordd newydd o ddyfarnu graddau i ddisgyblion.