Mae lle i ddadlau bod yr argyfwng Covid yn “atgyfnerthu” anghydraddoldeb cymdeithasol, yn ôl academydd o brifysgol Caerdydd.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau am effaith coronafeirws ar Gymru a’i heconomi.

Ac ym mhapur briffio diweddaraf y ganolfan, tynnir sylw at ein patrymau gwaith newydd, a gallu’r cyhoedd i weithio o adre.