Ddechrau’r mis, fe fues i yn stondin Merched y Wawr ar faes y brifwyl. Fe joies i’r glonc, y te a’r pice ar y maen. A jiw, roedd y tywydd yn sych – bonws!
Do, fe wnes i ymuno â Changen y Brynie, fel aelod anrhydeddus am y dydd a ‘Swyddog Diogelwch’ yn fy menig a masg; ac ie, yn ein dychymyg oedd y ‘stondin’ yn Eisteddfod Tregaron!
Ond roedd mwy o fudd i’r dydd na chlonc fach gyda ffrindiau. Bu’n gyfle i rannu teimladau am gyfyngiadau’r Covid. Y duedd dros y misoedd diwethaf yw trafod pethau gyda’r bobol ry’n ni’n eu gweld amlaf – teulu, cymdogion, a phobol sydd wedi dewis dechrau cymdeithasu â’i gilydd. Prin yw’r cyfleoedd i glywed barn pobol sy’n meddwl yn wahanol – pobol sydd heb fod i unman, er enghraifft.
Y drafodaeth fawr oedd pryd gallai’r gangen ailddechrau cwrdd. Am ba hyd fydd y tywydd yn caniatáu cynnal pethau mas tu fas? Faint fydd yn gallu ffitio mewn i neuaddau’n sâff, a phryd?
Maen nhw’n gwestiynau pwysig sydd ar feddwl arweinwyr lleol ledled Cymru ar drothwy’r Flwyddyn Ddiwylliannol Newydd. Fel arfer, byddai clybiau’n ailddechrau ym mis Medi gyda rhaglen o weithgareddau i fyrhau’r gaeaf hir.
Eleni, pa gymorth fydd yn cael ei roi i’n harweinwyr allu ailddechrau un o elfennau sylfaenol cymdeithas – ein diwylliant? Mae llawer o sôn wedi bod am iechyd, wrth gwrs. Ac erbyn hyn mae mwy fyth o sôn am yr economi, wrth i gyrchfannau twristiaid agor eu breichiau led y pen i ddenu ymwelwyr i’n bröydd glan môr.
Ond ble mae ‘cynnal diwylliant a ffordd o fyw’ yn rhestr blaenoriaethau’r bobol mewn grym? Fe ddylai ein llywodraethau helpu mudiadau i ailddechrau yr hydref hwn – er mwyn iechyd meddwl pobol ac iechyd ein cymdogaethau.
Ond beth os na wnawn nhw?
Efallai bod angen i ni wneud rhywbeth tebyg i Ferched y Wawr y Brynie – defnyddio ein dychymyg i ffindio ffordd o wneud beth sydd angen ei wneud. Mae’n debyg bod hawl cael hyd at 30 o bobol ynghyd dan do nawr, os ydych yno ar gyfer ‘priodas’?!
Gallwch ddarllen y golofn yn ei chyfanrwydd ar wefan Bro.