Maen nhw wedi dysgu gymaint i fi.

Faint o wersi, tybed? Mewn saith mlynedd o ysgol, faint o wersi yw ’na? Faint o lyfre’ fi wedi llenwi gyda ysgrifen fach, oedd yn mynd yn daclusach ac yn fwy tynn bob blwyddyn? Faint o ddarne o waith cartref fi wedi eu cwblhau, traethodau wedi eu hysgrifennu? Faint o weithiau roddes i’n llaw lan i ateb cwestiwn?