Mae deuawd y Dhogies yn swyno’r ymwelwyr lawr yn Sir Benfro gyda chyfyrs o ganeuon Elvis, Meic Stevens a John Denver – ac mae ganddyn nhw ganeuon gwreiddiol hefyd…

Mae’r Saeson yn eu dagrau wrth wrando ar ddeuawd o Sir Benfro yn canu un o glasuron Meic Stevens, ‘Cân Walter’.

Dyma un o ganeuon mwya’ teimladwy’r trwbador o Solfach, am ei wncwl Walter a fu farw yn ddyn ifanc ‘o dan y môr, bu farw dros ei wlad’.