Dyma flas ar nofel newydd Andrew Green, y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, Rhwng y Silffoedd. Mae’r nofel gyfoes wedi ei lleoli mewn tref brifysgol ddychmygol, Aberchaeron, ac yn dychanu byd addysg a bywyd y dref. Mae ynddi hefyd ddirgelwch sydd angen ei ddatrys wedi i un o bwysigion y coleg gael ei lofruddio…